Beth yw’r Prosiect Traed ar y Ddaear?
Yn gryno, credwn fod profiadau awyr agored sy’n berthynas-ganolog ac ystyrlon â’r potensial i newid bywydau pobl – rydyn ni’n gwneud hyn drwy agweddau arloesol a chynhwysol fel creu adeiladau hynod o ddeunyddiau naturiol, addysg sy’n ennill gwobrau a rhaglenni lles a hefyd gweithgareddau antur o’n canolfannau a grëwyd â llaw ar Benrhyn Gŵyr.
Gweithgareddau
Anturiaethau
Mae Traed ar y Ddaear yn defnyddio dulliau adeiladu traddodiadol a chynaliadwy i gynnig prosiectau adeiladu masnachol hygyrch a chynhwysol; fframiau pren, adeiladau o wellt, adeiladau o bridd ynghyd ag adeiladu waliau cerrig sych.
Dysgu a lles
Rydyn ni’n cynnig rhaglenni arloesol o safon uchel yn unig gyda chymarebau staff uchel iawn i sicrhau y gall anghenion amrywiol ein grwpiau gael eu cefnogi. Gyda hyfforddiant arbenigol, cyrsiau therapi, tyfu bwyd a choginio yn yr awyr agored, mae gennym lawer i’w gynnig.
I gael mwy o wybodaeth am y Prosiect Traed ar y Ddaear, ewch i www.downtoearthproject.org.uk