Pwy i alw arno os byddwch chi neu un o’ch ceraint yn profi seicosis neu broblemau iechyd meddwl eraill ym Mhowys

Ym Mhowys, os byddwch chi’n teimlo eich bod chi neu un o’ch ceraint yn profi symptomau neu seicosis neu’n dioddef gan broblemau iechyd meddwl eraill, yna’r lle cyntaf i fynd iddo yw at eich MT yn eich meddygfa. Cofiwch gysylltu â nhw i drefnu apwyntiad a byddan nhw wedyn yn eich cyfeirio at wasanaeth priodol i chi gael cefnogaeth. Os byddwch chi angen cysylltu â rhywun y tu allan i oriau’r feddygfa, yna gallwch gysylltu â’r gwasanaeth y tu allan i oriau ar 111 a fydd hefyd yn gallu eich cyfeirio.

Gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael ym Mhowys

Ym Mhowys, mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis wrthi’n cael ei ddatblygu a dylai fod ar gael yn 2019. Ar hyn o bryd, gellir cael triniaeth ar gyfer seicosis a chyflyrau iechyd meddwl eraill yng Nghanolfannau Iechyd Meddwl y Gymuned sy’n cynnig cefnogaeth aml-ddisgyblaeth i bob cleient sy’n gofyn am eu gwasanaethau.

Mewn argyfwng::

  • Os byddwch chi neu un o’ch ceraint yn wynebu ar argyfwng meddygol gan gynnwys hunan-niweidio sylweddol, yna ffoniwch am ambiwlans ar 999.
  • Os bydd y person yn ymddwyn mewn modd sy’n beryglus iddo/ iddi ei hun neu i eraill, yna gallwch gysylltu â’r heddlu ar 999.
  • Os nad yw’r person yn cytuno i weld y MT ac eto’n dangos symptomau difrifol nad sy’n gofyn am ymyrraeth heddlu neu ambiwlans, yna gall perthynas ofyn am asesiad deddf iechyd meddwl drwy’r gwasanaethau cymdeithasol ar 0845 0544 847

Gwasanaethau eraill sydd ar gael ym Mhowys

PAVO (Rhwydwaith neu sefydliadau ym Mhowys)

Mae’r tîm Gwybodaeth a Chyfranogiad Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy’n gweithio neu’n byw ym Mhowys.

Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth iechyd meddwl y gellir cysylltu ag ef 5 niwrnod yr wythnos rhwng 9am a 5pm. Bydd staff y tîm yn gwneud eu gorau i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych am iechyd meddwl a’r gweithgareddau a’r gwasanaethau ym Mhowys.

Gallwch gael y wybodaeth iechyd meddwl ddiweddaraf ar eu gwefan. Yno mae dyddiadur o ddigwyddiadau, y newyddion diweddaraf, gwybodaeth, y prosiectau diweddaraf a’r cyfleoedd i bobl gymryd rhan i lunio gwasanaethau iechyd meddwl.

Gallwch hefyd ymweld â’u blog iechyd meddwl yma, oneu gallwch ofyn am yr e-fwletin deufisol drwy gysylltu â jackie.newey@pavo.org.uk neu ffonio 01686 628 300.

PAVO – 01597 822 191

Samariaid Llinell gymorth y – 0845 90 90 90

C.A.L.L Llinell gymorth y Gymuned (llinell Cyngor a Gwrando) – 0800 132 737 neu anfon testun ‘help’ at 81066


Gwasanaethau penodol eraill Gogledd Powys

Kaleidoscope (Gwasanaeth cyffuriau ac alcohol)
Pmae’n darparu ystod eang o wasanaethau sy’n cefnogi pobl a theuluoedd sy’n cael eu haffeithio gan y defnydd o sylweddau.

Cyfeiriad: Tŷ Hafren, Sgwâr Hafren, Y Drenewydd SY16 2AG
Ffôn: 01686 601422

Pont Hafren (cysylltiol – elusen gofrestredig)
Mae’n paratoi ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, y rhai a all fod yn ynysig neu wedi’u heithrio’n gymdeithasol neu’r rhai sydd efallai’n dymuno gwneud ffrindiau newydd neu ennill sgiliau newydd.

Mae’r Gymdeithas yn cynnig canolfannau lle gall pobl ymlacio, sgwrsio a chael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithdai, gweithgareddau a chyrsiau os byddan nhw’n dymuno. Mae cefnogaeth ar gael yn y ganolfan a gall y gymdeithas gyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau cefnogi arbenigol eraill.

Contact addresses:

Ponthafren Association, Longbridge Street, Newtown, Powys SY16 2DY
Ffôn: 01686 621586 or 07807 286815

or

The Enterprise Centre, 42 Broad Street, Welshpool, Powys, SY21 7RR
Ffôn: 01938 552770


Smudiadau penodol eraill yn Ne Powys

Kaleidoscope
Mae’n darparu ystod eang o wasanaethau sy’n cefnogi pobl a’u teuluoedd sy’n cael eu haffeithio gan y camddefnydd o sylweddau.

Ffôn: 01686 207 111

MIND
Mae Mind yn rhan o’r sector gwirfoddol ac mae’n darparu gwasanaethau sy’n ategu’r rhai sy’n cael eu darparu gan asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill. Maen nhw’n cynnig ystod eang o weithgareddau iach, cyrsiau a gweithdai a luniwyd i gefnogi ac i roi grym i bobl sy’n dioddef gan drallod meddwl i symud tuag at adferiad.

Contact:

Llandrindod Wells: Siambrau’r Cilgant, Cligant y De, Llandrindod
LD1 5DH
Ffôn: 01597 842 916

or

Brecon: Ty Croeso, St Davids House, Brecon LD3 7B
Phone: 01874 611 529