Beth yw seicosis?

Mae seicosis yn affeithio ar tua 7 o bob 1,000 o oedolion. Mae achos yn dueddol o ddigwydd rhwng 15-35 oed. Nodwedd seicosis yw episodau aciwt o rithweledigaethau a rhithdybiau trallodus, ymddygiad cynhyrfus ac anawsterau cof a chanolbwyntio. Cyn yr episodau aciwt fel arfer ceir y ‘cam rhagarwyddol’ lle gwelir dirywiad mewn gweithredu personol a symptomau seicotig sy’n fyrrach a llai dwys na’r rhai mewn episod aciwt. Y brif her i’r MTon yw canfod symptomau seicosis yn brydlon a gallu gwahaniaethu’r rhain oddi wrth broblemau iechyd meddwl eraill.


Beth yw symptomau seicosis?

Gall profiadau penodol symptomau fod yn eithaf unigryw ac unigol i berson. Fodd bynnag, mae symptomau fel arfer yn affeithio ar y parthau canlynol:

Meddwl a lleferydd dryslyd: Gall meddyliau bob dydd fod yn ddryslyd gan wneud brawddegau’n aneglur neu’n anodd eu deall. Weithiau, gall pobl greu geiriau neu ddefnyddio geiriau allan o’u cyd-destun. Mae’n bosibl y byddan nhw’n cael anhawster canolbwyntio, dilyn sgwrs neu gofio pethau. Gall meddyliau gyflymu neu arafu neu fod yn amherthnasol i bwnc y sgwrs.

Coelion ffals (rhithdybiau): Gall pobl gredu’n gryf bod rhywbeth yn real, hyd yn oed yn wyneb gwybodaeth groes. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddan nhw’n credu bod y modd y mae ceir wedi’u parcio y tu allan i’r tŷ’n dangos eu bod yn cael eu gwylio gan yr heddlu, hyd yn oed petai’r heddlu’n cadarnhau nad oedd hyn yn wir.

Rhithweledigaethau: Gall pobl glywed, teimlo, arogli neu flasu rhywbeth nad sydd yno go iawn.

Teimladau’n newid: Gall sut mae person yn teimlo newid am ddim rheswm o gwbl. Mae’n bosibl y byddan nhw’n teimlo’n rhyfedd ac wedi’u torri i ffwrdd oddi wrth y byd, gyda phopeth yn symud yn araf iawn. Mae newid hwyliau’n gyffredin ac fe allan nhw deimlo’n anghyffredin o gyffrous neu isel. Mae’n bosibl y byddan nhw’n teimlo llai o emosiwn neu’n dangos llai o emosiwn tuag at y rhai sydd o’u cwmpas.

Ymddygiad yn newid: Mae’n bosibl y bydd person yn hynod actif neu’n cael anhawster i gael yr egni i wneud pethau, yn chwerthin pan na fydd pethau’n ymddangos yn ddigrif neu’n flin neu wedi’u cynhyrfu heb unrhyw achos.


Sut gellir cael diagnosis o seicosis?

I ddeall os ydy person yn dioddef gan symptomau seicosis, fel arfer, bydd yn cael ei wahodd/gwahodd i fynychu asesiad gyda gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl. Gall yr asesiad hwn gynnwys trafod y profiadau y mae person yn eu cael a chwblhau rhai holiaduron. Bydd gan y gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl ddiddordeb mewn casglu gwybodaeth am y parthau uchod i gadarnhau a ydy rhywun yn ymddangos fel petai’n profi seicosis.

Gellir bod nifer o resymau pam mae rhai’n profi symptomau seicosis. Er enghraifft, rhai problemau iechyd corfforol fel heintiau, neu gall anaf i’r ymennydd achosi symptomau a all fod yn debyg i seicosis. Bydd yn bwysig dileu unrhyw bryderon iechyd corfforol yn ystod y broses asesu.

Ni ddefnyddir seicosis fel arfer fel term diagnostig ar ei ben ei hun. Os ydy rhywun yn profi symptomau seicosis, mae’n bosibl y byddan nhw’n cael un, neu fwy, o’r diagnoses canlynol.

* Sgitsoffrenia

* Anhwylder deubegwn (iselder manig)

* Anhwylder sgitsoaffeithiol

* Anhwylder paranoid, anhwylder rhithdybiol neu anhwylder personoliaeth paranoid

* Seicosis ôl-esgor (math difrifol o iselder ôl-eni)
* Iselder ysbryd difrifol


Pryd a gan bwy y dylai pobl geisio help a chefnogaeth?

Mae tystiolaeth yn awgrymu po gyntaf y bydd pobl yn gofyn am gefnogaeth i’w symptomau seicosis, gorau oll fydd y prognosis ar gyfer eu hadferiad. Mae’r dystiolaeth hon wedi hysbysu safonau ansawdd gofal NICE (Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Iechyd a Gofal) (2015) a Choleg Brenhinol Seiciatryddion (2016) sy’n nodi y dylai oedolion sy’n profi episod cyntaf seicosis, ddechrau triniaeth gydgordiol NICE o fewn Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis o fewn 2 wythnos i dderbyn atgyfeiriad.

Timau o weithwyr proffesiynol iechyd meddwl sydd wedi’u hyfforddi’n benodol i asesu a thrin symptomau seicosis yw’r Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ddarparu ystod llawn o driniaeth ar sail tystiolaeth gan gynnwys ymyraethau ffarmacolegol, seicolegol, cymdeithasol, galwedigaethol ac addysgol. Gall pobl gael y gefnogaeth hon am hyd at dair blynedd ar ôl cael eu derbyn i Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis. Gellir ymestyn y gefnogaeth os na fydd y person wedi cael adferiad sefydlog. Awgryma tystiolaeth y gall Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis wella deilliannau clinigol, fel cyfraddau derbyn, symptomau ac ail-byliau i bobl mewn episod seicosis cyntaf.

I ddarganfod pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal, ccliciwch yma