Beth ydyn ni’n ei wneud?
- Rydyn ni’n darparu gwybodaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd am eu cyflwr, y strategaethau ymdopi a meddyginiaethau.
- Gwneud y mwyaf o’u rheolaeth dros eu profiadau a lleihau’r aflonyddwch ar eu bywydau.
- Darparu ymyrraeth seicolegol ar sail unigol a grŵp.
- Cynnal a datblygu cysylltiadau yn y gymuned.
- Atal neu leihau datblygiad eu problemau e.e. iselder, pryder a diffyg cymhelliant.
- Codi ymwybyddiaeth y gymuned am seicosis a delio â’r stigma.
- Cynnal ymgysylltiad gyda’r person ifanc.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc 14 i 25 oed a all fod yn dioddef gan symptomau cynnar seicosis. Hoffem eich cyfarfod os ydych, yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi dechrau profi meddyliau a theimladau anghyffredin sydd wedi eich atal rhag gallu gwneud pethau roeddech ar un adeg yn eu hystyried yn ‘normal’ a ‘phleserus’.
Pwy all eich cyfeirio?
Gallwch ofyn i’ch MT eich cyfeirio atom
Y Prosiect Traed ar y Ddaear (D2E)
Mae’r prosiect Traed ar y Ddaear yn fenter gymdeithasol sydd wedi ennill gwobr gyda hanes da dros 10 mlynedd (sefydlwyd 2006) yn cefnogi pobl i sicrhau newid positif yn eu bywydau drwy weithgareddau awyr agored ystyrlon. Mae pob ceiniog rydyn ni’n ei hennill yn mynd i gefnogi ein gwaith i newid bywydau a chreu byd hapusach a mwy.
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am sut mae Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ABM yn gweithio gyda ‘D2E’ ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaeth.
 phwy all eich MT gysylltu?
Gall eich MT gysylltu â Heidi McGregor ar (01639) 683216 rhwng 9.00am to 5.00pm, Dydd Llun i ddydd Gwener a gofyn am ffurflen atgyfeirio.