……….. ydw i
Os byddwn ni’n gwybod pwy ydych chi, gallwn roi’r wybodaeth orau i chi
Beth yw seicosis?
Problem iechyd meddwl yw seicosis sy’n achosi pobl i ddioddef neu ddehongli pethau’n wahanol i’r bobl o’u cwmpas. Weithiau cyfeirir ato fel ‘colli cysylltiad â realaeth’. Cyfeirir at ddioddef gan symptomau seicosis fel cael episod seicotig. Mae’n bosibl y bydd person yn ei ddioddef unwaith neu’n cael amryw o episodau neu’n byw gydag ef y rhan fwyaf o’r amser.
Profiadau mwyaf cyffredin seicosis yw:
- Rhithweledigaethau: lle mae person yn clywed, gweld, teimlo, arogli neu hyd yn oed yn blasu pethau nad sydd yno; yr un mwyaf cyffredin yw clywed lleisiau.
- Coelion anghyffredin: lle mae gan berson goelion cryf nad sy’n cael eu rhannu gydag eraill. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘rhithdyb’. Rhithdyb gyffredin yw rhywun yn credu bod cynllwyn i’w niweidio.
- Meddwl a lleferydd anhrefnus: gall fod yn anodd dilyn teithi meddwl neu leferydd rhywun.
Gall y rhain achosi trallod ac effeithio ar fywyd bob dydd person e.e. mynychu coleg, gweld ffrindiau neu gysgu