Beth yw seicosis?

Defnyddir y term ‘seicosis’ i ddisgrifio cyflwr pan fydd person yn colli cyswllt gyda realaeth. Gall pobl ifanc ymddwyn yn hynod wahanol pan fyddan nhw dan straen, wedi cyffroi neu mewn gofid mawr. Mewn ffaith, yn anghyffredin iawn mae’r rhain yn arwyddion o salwch meddwl. Mae seicosis fel arfer yn fwy difrifol ac yn anablu.


Pa mor gyffredin yw seicosis?

Gall seicosis affeithio ar bob o bob oed ond mae’n mynd yn gynyddol gyffredin wrth i bobl gyrraedd oed oedolyn ifanc.


Cyfnodau seicosis

Mewn achos nodweddiadol o seicosis, gellir meddwl am dri cham; cam rhagarwyddol, cam aciwt a’r cam adfer..

Cam rhagarwyddol:
Mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi eich bod chi’n ei chael hi’n anodd dilyn eich arferion bob dydd fel ymolchi, gwisgo neu fynd i’r ysgol neu i’r gwaith. Mae’n bosibl y byddwch chi’n tynnu’n ôl oddi wrth eich teulu a’ch ffrindiau ac yn colli diddordeb yn eich hobïau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae rhai pobl hefyd yn datblygu’r teimlad ‘nad yw pethau’n ymddangos yn iawn’ neu fod rhywbeth dieithr yn dechrau digwydd. Gall pobl hefyd ddechrau teimlo’n bryderus neu’n isel eu hysbryd. Gelwir hwn hefyd yn gam ‘mewn perygl’.
Er nad yw rhai pobl sy’n cael y profiadau hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu seicosis, os ydyn nhw’n achosi trallod i chi neu’n affeithio ar eich bywyd, yna dylech ystyried mynd at eich MT neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi fel rhiant neu diwtor.

Cam aciwt:
Yn ystod y cam hwn, byddech chi’n teimlo symptomau seicosis fel rhithweledigaethau, coelion anghyffredin a newidiadau yn eich ffordd o feddwl. Dyma’r cam lle byddwch chi’n fwyaf tebygol o gael eich atgyfeirio ar y gwasanaethau iechyd meddwl neu at Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar fydd yn trafod opsiynau triniaeth gyda chi. Mae’n bosibl hefyd y gallwch atgyfeirio eich hun neu bod eich teulu’n gwneud hyn yn uniongyrchol at Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar.

Cam adfer:
Yn ystod y cam hwn, mae pobl yn dechrau gwella, yn profi llai o’r symptomau trallodus ac yn dechrau ail sefydlu perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu. Hwn hefyd yw’r amser y mae pobl yn ystyried eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel gwaith, addysg a hyfforddiant. Bydd y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar yn darparu cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn.


Dulliau o gefnogi rhywun â seicosis

Addysgu eich hun
Y ffordd orau i ddeall y salwch yw dysgu amdano. Mae digon o wefannau a all eich helpu i ddeall seicosis gan gynnwys deall y driniaeth. Rydych wedi dechrau’r broses hon drwy fynd i’r wefan hon.

Byddwch yn dosturiol, gwrandewch
Mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd gofal, caredigrwydd, gwrando a chefnogi’n emosiynol mewn adegau o drallod. Hwn yn aml, yw’r peth pwysicaf y gallwch ei gynnig.

Cofiwch fod adferiad yn bosibl
Mae’n bosibl y bydd eich ffrind/ aelod o’ch teulu’n teimlo’n isel ac yn ddiobaith – atgoffwch ef/hi fod adferiad yn bosibl. Mae nifer o wefannau iechyd meddwl a llyfrau a all helpu i’w hysbrydoli.

Gofalwch am eich hunan
Mae’n bosibl eich bod yn gofalu am rywun sy’n dioddef gan seicosis ond mae’n bwysig gofalu am eich hunan hefyd. Byddwch yn realistig ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud, trafodwch eich teimladau gyda rhywun ac os bydd pethau’n mynd yn drech na chi, cymerwch seibiant.
Mae’n bwysig cofio bod gennych hawl i asesiad gofalwr pan fydd eich perthynas neu ffrind yn rhan o’r gwasanaethau. Mae’n bosibl y bydd grwpiau gofalwyr hefyd o fewn y gwasanaeth neu o fewn sefydliadau eraill.

Daliwch ati
Fel pob problem iechyd meddwl, nid yw adferiad o seicosis bob amser yn llinell syth. Mae’n bwysig dal i obeithio a bod yn optimistaidd yn ystod yr adferiad. Gall eich cyfranogiad chi fod yn elfen hanfodol mewn adferiad.


Pryd ddylen nhw geisio help?

Os byddan nhw’n meddwl eu bod mewn perygl o achosi niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill, gallwch:

  • Fynd â nhw i weld eu MT. Y MT yw’r pwynt cyswllt gorau
  • Fynd â nhw i’r Adran D&A agosaf
  • Ddeialu 999 a gofyn am y gwasanaethau brys

Dylech annog eich ffrind/ yr aelod o’ch teulu i geisio help gan y MT ar unwaith, os ydych chi’n bryderus am ei iechyd/ hiechyd meddwl. Dylai ef/ hi ei atgyfeirio/ hatgyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.
Mae’n bosibl y bydd y MT yn gofyn rhai cwestiynau i’w helpu i benderfynu beth sy’n achosi’r seicosis. Dylai ei atgyfeirio/ hatgyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl i gael asesiad pellach a thriniaeth.

Os ydy eich ffrind/ yr aelod o’r teulu’n rhan o’r gwasanaethau ar y pryd ac yn mynd trwy argyfwng, gallwch ei gyfeirio/ chyfeirio at y cynllun gofal a thriniaeth a chysylltu â’r cydlynydd gofal neu’r gwasanaethau y tu allan i oriau. ’Cliciwch yma i gael hyd ir gwasanaeth agosaf
Click here to find your nearest service