Pwy ydyn ni?

Gwasanaeth GIG ydyn ni sy’n gweithio gyda Barnardo’s i gefnogi pobl ifanc sydd wedi cael eu hepisod cyntaf o seicosis (FEP). Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc 14-25 oed nad sydd wedi cael cynnig ymyrraeth gynnar lawn ar gyfer seicosis cyn hyn. Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau oddi wrth wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd gan y person ifanc gydlynydd gofal.


Gwasanaethau Hyb ac Adain

Mae timau iechyd meddwl y gymuned yn darparu asesiad, cydlyniant gofal ac ymyraethau llai dwys ar gyfer FEP drwy ymarferwyr Adain.


Headroom

Mae Headroom yn darparu asesiad arbenigol, ymyraethau dwys uchel, ymgynghoriad, hyfforddiant a goruchwyliaeth yn unol â chanllawiau NICE ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia.


Cysylltwch â’r tîm

Tel: 029 21824227

Early Intervention in Psychosis Service

Avon House

Stanwell Road,

Penarth

Vale of Glamorgan

CF64 2EZ