EIPS ABUHB

Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis, yr hyn a elwir yn gyffredin fel EIPS, yn canolbwyntio ar ganfod yn gynnar ac adfer o seicosis, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n dioddef gan eu Hepisod Cyntaf o Seicosis (FEP) neu sydd o fewn y cyfnod tair blynedd gritigol o ddiagnosis.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUH) ei dîm enwebedig ei hun ar gyfer hyn. Mae’n wasanaeth GIG a nodwyd ar gyfer pobl 14-35 oed. Fodd bynnag, mae’r tîm yn agored i atgyfeiriadau oddi wrth bobl o bob oed hyd at 40 os ydyn nhw’n amlwg yn dioddef gan eu Hepisod Cyntaf o Seicosis neu eu bod yn teimlo eu bod ‘mewn perygl’. Mae’r gwasanaeth ar gael am hyd at dair blynedd ar ôl atgyfeiriad ac unigolyn yn cael ei dderbyn at lwyth gwaith y tîm i gael cefnogaeth ac ymyraethau.

Tîm yn y gymuned yw EIPS ABUHB sy’n cydnabod nad yw pobl ifanc yn aml eisiau mynychu apwyntiadau clinig. O’r herwydd, gall y tîm hyrwyddo ymweliadau cartref a chymuned ynghyd â rhai mewn swyddfeydd. Y nod yw helpu pobl ifanc ar draws bwrdeistref Gwent i gyflawni eu goliau a’u gobeithion unigryw ynghyd ag addysgu ffordd person i adferiad.

Fel rhan o EIPS ABUHB, mae ymagwedd tîm aml-ddisgyblaeth ar sail anghenion personol person ifanc gan gynnwys:

  • Addysg am seicosis a sut i ddal i fyw’n iach
  • Cefnogaeth i fod yn rhan o’r gymuned ehangach e.e. gwaith, addysg, gweithgareddau cymdeithasol.
  • Ymyraethau seicolegol (‘therapïau siarad’)
  • Meddyginiaethau – rhagnodi a monitro
  • Cefnogaeth i ofalwyr teulu

Tîm EIPS ABUHB, pwy ydyn nhw?

Nyrsys Ymyrraeth Gynnar Arbenigol
Mae’r tîm yn cynnwys nyrsys arbenigol gyda phob un wedi cymhwyso’n RNMH. Gallan nhw gefnogi i helpu i ddeall seicosis ac ymdopi ag anawsterau y gellid bod wedi’u hwynebu. Maen nhw wedi’u hyfforddi yn y defnydd o feddyginiaethau a CBTp (Therapi Ymddygiadol Gwybyddol ar gyfer seicosis) a gallan nhw weithio gyda’r unigolyn a’r teulu i helpu i ddeall y profiad yn ystod cam aciwt seicosis..

Seicolegwyr
Seicolegydd yw rhywun sy’n arbenigo mewn sut mae meddyliau a theimladau pobl yn effeithio ar eu hymddygiad.

Seiciatryddion
Meddyg meddygol yw seiciatrydd sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl. Gall wneud diagnosis o salwch meddwl, ragnodi meddyginiaethau ac argymell triniaeth.

Therapyddion galwedigaethol
Mae therapydd galwedigaethol yn helpu oedolion ifanc ag anableddau meddwl, corff neu gymdeithasol i gyflawni swyddogaethau bob dydd yn annibynnol gyda mwy o hyder ac annibyniaeth.

Gwasanaethau gweinyddol
O gael seiciatryddion a seicolegwyr o fewn y tîm, mae’n rhaid cael gweinyddwr. Mae’r rôl yn bwysig o fewn unrhyw dîm – y llais ar ben arall y ffôn neu’n rhywun i agor drws i glinigau. Mae’r gweinyddwr yn gweithio’n bennaf i’r seiciatryddion a’r seicolegwyr. Fodd bynnag, gall hefyd fod ar gael i weithio i weddill y tîm.

Mentor cyfoed
Mentor cyfoed yw unigolyn mewn adferiad o’i siwrne a’i brofiadau personol ei hunan. Mae wedi derbyn help, cyngor ac arweiniad gyda deilliant positif. Defnyddir y rôl i helpu unigolion a/ neu eu teuluoedd a’u ffrindiau i ddeall yr hyn sy’n digwydd o safbwynt mentor cyfoed. Gall gysylltu gyda staff a bod yn gefnogaeth gyffredinol yn ystod y cyfnod.

HAFAL – Ymarferwyr Adferiad
Mae UP4IT yn brosiect ar draws Gwent, gyda 4 o Ymarferwyr Adferiad Ymyrraeth Gynnar yn gweithio gyda phobl ifanc 14-25 oed sy’n mynd trwy Episod Cyntaf Seicosis neu sydd wedi gwneud hyn yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Fel prif rôl y prosiect, mae ymarferwyr yn gweithio gyda phobl ifanc a nodwyd ar y cyd gyda thîm EIP ABUHB i ddarparu model ymyrraeth gynnar gadarn o adferiad yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol, cymdeithasol, emosiynol a galwedigaethol y person ei hun.


Sut i gysylltu â’r tîm

Mae gwybodaeth ar gael ar y wefan hon i ganfod a ydych chi’n teimlo y byddai person yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer cefnogaeth. Fodd bynnag, mae’r tîm EIS yn annog unrhyw un sydd â phryderon am berson ifanc neu sy’n meddwl ei fod/ bod yn datblygu seicosis i gysylltu â nhw cynted ag sy’n bosibl.

Os hoffech chi atgyfeirio rhywun neu chi eich hunan, mae sawl modd gwahanol i gysylltu â’r tîm.

Lawr lwythwch y ffurflen atgyfeirio yma

Anfonwch e-bost atyn nhw ar: ABB.EISReferrals@wales.nhs.uk

Ffoniwch ar: 01633 238800 rhwng 9am – 5pm, Dydd Llun I ddydd Gwener. Mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael y tu allan i’r oriau hyn.