Mae’r brif Ymyrraeth Gynnar yn BC UHB yn gwasanaethu Gwynedd ac Ynys Môn. Mae’r tîm bychan hwn o ymarferwyr arbenigol yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau iechyd meddwl cyffredinol i ddarparu therapïau seicolegol a chefnogaeth i bobl ifanc (14-35 oed) sydd wedi cael neu mewn perygl o gael episod o seicosis. Ei nod yw darparu gwasanaeth prydlon, hygyrch a chyfeillgar sy’n ddigon hyblyg i gyflawni anghenion pobl ifanc a all ei chael hi’n anodd ‘ymgysylltu’ gyda gwasanaethau prif lif. Caiff pobl ifanc gefnogaeth am hyd at dair blynedd er mwyn eu helpu i barhau’n iach, i wneud synnwyr o’u profiadau anghyffredin ac i gael hyd i weithgaredd ystyrlon a chyfeiriad yn eu bywydau. Yng nghanolbarth ac ardaloedd dwyreiniol Gogledd Cymru mae gwasanaeth EIP ar gael yn CAMHS. Gobeithiwn allu datblygu hwn yn wasanaethau i oedolion yn 2019. Ar draws y rhanbarth, mae’r EIP yn cydweithio gyda Gwasanaeth Ymarferwyr Adfer HAFAL i ddarparu rhaglen o weithgareddau a therapi antur.

Gwelir meini prawf ar gyfer EIP ar y ffurflen atgyfeirio. Mae’r gwasanaeth yn y Gorllewin wedi’i leoli yng Nghanolfan Ffordd yr Abaty ym Mangor: www.abbeyroadcentre.co.uk.

I drefnu/ drafod atgyfeiriad, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth EIP ar 01248 388025, carol.rashid@wales.nhs.uk, Talarfon etc.

Ffurflen Atgyfeirio
Taflen Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Seicosis


 

Gwasanaeth Cefnogi Ymarferwyr Adferiad HAFAL

Ar y cyd gyda gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis BC UHB, mae HAFAL yn darparu gwasanaeth cefnogi adferiad canolog a all weithio ochr yn ochr â phobl ifanc sy’n agored i’r EIP, am hyd at dair blynedd. Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth unigol mewn gweithgaredd adferiad -ganolog. Pan fydd y person ifanc yn barod, gallwn hefyd gynnig rhaglen therapi antur fesul grŵp gydag ystod o weithgareddau’n ymwneud â’r amgylchedd naturiol, gweithgareddau corfforol a gollwng gafael o’r ‘parth cyfforddus’ gyda chefnogaeth therapiwtig wrth law. Nod y rhaglen hon yw helpu pobl ifanc i adfer eu hyder a’u gweithgareddau cyfranogi a’u cyswllt cymdeithasol ac i ddarganfod persbectifau newydd ar eu hanawsterau. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai bwyta’n iach, gweithgareddau campau mynydd, traeth a dŵr a hwylio.

Gwelir meini prawf ar gyfer EIP ar y ffurflen atgyfeirio. Mae’r gwasanaeth yn y Gorllewin wedi’i leoli yng Nghanolfan Ffordd yr Abaty ym Mangor:

I drefnu/ drafod atgyfeiriad, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth EIP ar________

Daniel Bartlett – Practice Leader for EI Recovery & Support Service, Hafal – 07989 473375