Defnydd a ganiateir

Bydd ymwelwyr â seicosis Cymru (y wefan hon) yn cael caniatâd i weld deunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau defnyddio.
Er y gellir cael gafael ar gynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, astudio neu ddefnydd mewnol); Ni chaniateir i ymwelwyr atgynhyrchu nac ail-gyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd oddi wrth y wefan/perchennog hawlfraint.
Mae delweddau, logos a graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn yn eiddo i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.
Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon yn perthyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a lle y bo’n berthnasol, swyddogion cyswllt trydydd parti.

Gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy ar y wefan hon yn wirfoddol (Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflen adborth, holiaduron ac ati), defnyddir yr wybodaeth a gyflwynir yn unswydd i ymateb i’ch ymholiadau ac i’r diben a fwriadwyd. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr y we gyda thrydydd partïon.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar gyfer firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich risg eich hun. Ni fyddwn yn cael ein dal yn atebol am ddifrod neu golled yn sgîl unrhyw weithred neu anwaith sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

Gwefannau allanol

Nid yw seicosis Cymru yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor a gynhwysir ar safleoedd o’r fath.
Ni ddylid ystyried bod rhestru’n gymeradwyaeth o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na newid cyfeiriad y wefan.
Rydym yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.